Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yn Ein Gofal

29.3.23

1) Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ar ran y grŵp trawsbleidiol, diolchodd i'r Dirprwy Weinidog am roi o'i hamser i ddod i’r cyfarfod. Eglurodd fod amser yn brin oherwydd ymrwymiadau eraill y Dirprwy Weinidog ac y byddai’n rhaid cwblhau’r sesiwn gyntaf ar yr Agenda o fewn 30 munud.

2) Rhannodd Jackie Murphy o TGP Cymru a Sharon Lovell o Wasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru fersiwn gryno o'r cyflwyniad a wnaed ganddynt i'r grŵp trawsbleidiol blaenorol. Disgrifiwyd rhai o lwyddiannau’r system bresennol, yn ogystal â’r heriau sy’n codi. Hefyd, pwysleisiwyd rhai o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, fel y’u codwyd gydag eiriolwyr.

3) Trafodwyd y pwyntiau a wnaed yn y cyflwyniad. Ymatebodd y Dirprwy Weinidog i’r pwyntiau a wnaed. Dywedodd ei bod yn barod i ystyried adolygiad annibynnol o wasanaethau eirioli. Yn ystod y drafodaeth, soniwyd hefyd am rai o’r materion eraill yr oedd Jackie Murphy a Sharon Lovell wedi’u codi, yn enwedig o ran lleoliadau heb eu cofrestru a heb eu rheoleiddio.

Gadawodd y Dirprwy Weinidog y cyfarfod.

4) Penderfynwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu'n ffurfiol at y Dirprwy Weinidog ar ran y grŵp trawsbleidiol yn gofyn iddi gynnal adolygiad annibynnol o'r model presennol o ddarparu gwasanaethau eirioli.

5) Cytunwyd y byddai cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn canolbwyntio ar leoliadau heb eu rheoleiddio, fel y cynlluniwyd, ac y dylai'r Cadeirydd ystyried a ddylid gofyn am fewnbwn o'r tu allan i'r grŵp o randdeiliaid presennol i helpu i lywio’r drafodaeth - o bosibl gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

6) Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn adlewyrchiad cywir o’r drafodaeth.

7) Cadarnhawyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal am 10.30 ddydd Mercher 14 Mehefin. Caiff y cyfarfod hwn ei gynnal ar ffurf hybrid, ac mae’r union leoliad ar ystâd y Senedd i'w gadarnhau.